Y GRŴP TRAWSBLEIDIOL AR SIOPAU BACH
Cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd am 12.00 ar 11 Mawrth 2015 yn Nhŷ Hywel
YN BRESENNOL:
Janet Finch-Saunders AC (JFS) |
Cadeirydd |
Keith Davies AC (KD) |
Aelod |
Elin Jones AC (EJ) |
Aelod |
Mark Isherwood AC (MI) |
|
Mohammad Asghar AC (MA) |
|
Edward Woodall (EW) |
Cymdeithas Siopau Cyfleustra (ACS) |
Chris Sutton (CS) |
Cydffederasiwn Diwydiant Prydain yng Nghymru |
Dylan Jones-Evans (DJE) |
Prifysgol Gorllewin Lloegr |
Sophie Mew (SM) |
Ysgrifennydd |
Josh Miles (JM) |
Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru |
Ken Parsons (KP) |
Cynghrair Siopau Gwledig |
Ian Johnson (IJ) |
Plaid Cymru |
Matthew Clark (MC) |
Ffederasiwn Cenedlaethol Manwerthwyr Papurau Newydd |
Dev Afwani (DA) |
Ffederasiwn Cenedlaethol Manwerthwyr Papurau Newydd |
Philippa Green (PG) |
Janet Finch-Saunders AC |
Craig Lawson (CL) |
Suzy Davies AC |
Elizabeth Flowers (EF) |
Swyddfa Grŵp y Ceidwadwyr |
1. CYFLWYNIAD
Croesawodd JFS bawb i gyfarfod cyntaf y Grŵp Trawsbleidiol yn 2015, a chyflwynodd CS a DJE i'r Grŵp cyn iddynt wneud cyflwyniadau ar ardrethi busnes a'r cam o ddatganoli'r polisi cysylltiedig i Gymru, a gyhoeddwyd y llynedd.
2. CYFLWYNIADAU GAN DJE A CS
Gwnaeth DJE gyflwyniad ar sut y gallai'r cam o ddatganoli ardrethi busnes i Gymru arwain at gefnogaeth i siopau bach. Dywedodd mai math o drethiant y gall Lywodraeth Cymru ei ddefnyddio i godi refeniw yw ardrethi busnes. Fodd bynnag, dywedodd y byddai'n bosibl defnyddio'r trethiant hwn yn y dyfodol fel offeryn economaidd i gefnogi siopau bach. Nododd fod nifer o bethau y gallai Llywodraeth Cymru eu gwneud i gefnogi siopau bach, gan gynnwys cynnig ardrethi is i fusnesau newydd er mwyn rhoi cyfle iddynt ddatblygu eu busnes.
Gwnaeth CS gyflwyniad ar yr adroddiad a gyflwynwyd gan y Panel Trethi Busnes ar ardrethi busnes i Edwina Hart, y Gweinidog Economi. Rhoddodd flas o gynnwys yr adroddiad a thynnodd sylw at y ffaith fod ardrethi busnes yn cyfrannu £960 miliwn i economi Cymru. Dywedodd fod yr adroddiad yn edrych ar sut i gynnal arenillion ardrethi busnes, sut i weinyddu ardrethi, sut y gellir rheoli cynlluniau rhyddhad ac eithrio gwahanol, a sail y prisiadau a ddarperir.
Yn ogystal, tynnodd CS sylw at argymhellion penodol yn yr adroddiad sy'n ymwneud â siopau bach, gan gynnwys argymhellion i ddefnyddio'r Mynegai Prisiau Defnyddwyr (CPI) yn hytrach na'r Mynegai Prisiau Manwerthu (RPI) i bennu ardrethi, defnyddio ffurf gyffredin ar filio ledled Cymru, cynnal ailbrisiadau yn fwy aml, ac asesu effaith ymestyn y cynllun rhyddhad ardrethi busnes ar gyfer busnesau bach.
3. Y PANEL MANWERTHWYR
Rhoddodd JM, EW a KP gyflwyniad ar farn Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru, yr ACS a'r Gynghrair Siopau Gwledig ar sut y gellid diwygio ardrethi busnes er mwyn cefnogi siopau bach.
Dywedodd JM fod datganoli yn gyfle da i ddiwygio'r system ardrethi busnes yng Nghymru. Tynnodd sylw at bwysigrwydd gadw ardrethi'n lleol a sicrhau bod ailbrisiadau yn cael eu cynnal yn fwy aml er budd busnesau bach.
Dywedodd EW hefyd y byddai cynnal ailbrisiadau unwaith bob tair blynedd o fudd i fanwerthwyr ac yn lleihau nifer yr apeliadau a wneir i Asiantaeth y Swyddfa Brisio o ran herio biliau ardrethi. Nododd hefyd y gellid defnyddio cynllun rhyddhad ardrethi dewisol i hybu twf economaidd. Dywedodd fod angen diwygio cynlluniau lle mae biliau'n seiliedig ar drosiant, fel y cynlluniau a ddefnyddir ar gyfer gorsafoedd petrol a pheiriannau arian parod.
Nododd KP fod trethi busnes yn gost sefydlog i fanwerthwyr, ac y byddai'r cam o gael cael ardrethi penodol ar gyfer busnesau newydd yn cael ei groesawu. Tynnodd sylw at bwysigrwydd y cynllun rhyddhad ardrethi i fanwerthwyr gwledig, a sut y gellid defnyddio cymalau machlud i gefnogi manwerthwyr.
4. TRAFODAETH
Yn dilyn y cyflwyniadau, codwyd nifer o bwyntiau.
Tynnodd KD sylw at bwysigrwydd cefnogi manwerthwyr bach yng Nghymru, a gofynnodd a ddylid cael treth manwerthu ar gyfer busnesau mwy, yn hytrach nag ardrethi busnes. Nododd MI fod llawer o bobl o Gymru yn dewis siopa ym mharc manwerthu Brychdyn yng Nghaer, a bod hyn yn effeithio ar y stryd fawr. Nododd DA fod archfarchnadoedd mawr sydd wedi'u lleoli ar gyrion trefi yn talu llai o lawer o ran ardrethi busnes na meysydd parcio canol y dref, a bod cynlluniau rhyddhad i fusnesau ond yn ateb dros dro.
Nododd EW fod y fethodoleg a ddefnyddir gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio mewn perthynas ag ardrethi yn ei gwneud yn anodd cymharu meysydd parcio yn y dref gyda'r rhai sydd ar gyrion y dref, a'r trethi a delir. Nododd CS hefyd fod y Panel wedi ystyried y ffaith bod buddsoddi mewn eiddo yn gallu arwain at drethi uwch a bod hynny'n gallu atal buddsoddi. Dywedwyd fod y panel wedi ystyried a ddylid oedi cyn cyflwyno trethi ar beiriannau mewn ffatrïoedd. Nododd hefyd fod rhyddhad manwerthu yn dal i fod yn werth £1,000 i fusnesau manwerthu bach yng Nghymru, a dywedodd y gallai'r cynllun hwn gael ei ymestyn yng Nghyllideb 2015.
Nododd CS mai'r syniad o ailbrisio yn fwy aml a gafodd y gefnogaeth fwyaf o ran diwygio'r system ardrethi, a dywedodd y byddai hyn yn helpu siopau bach. Nododd JM fod cymalau machlud yn bwysig, ond dywedodd fod angen i fusnesau bach gael gwybodaeth ymlaen llaw ynghylch pa ostyngiadau ac eithriadau fyddai ar gael bob blwyddyn.
5. Y CAMAU NESAF
CYTUNWYD y byddai'r Grŵp yn ysgrifennu at y Gweinidog Economi, gan dynnu sylw at safbwynt y Grŵp ar ardrethi busnes a diwygiadau i'r system yn y dyfodol.
Daeth JFS â'r cyfarfod i ben.